Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi croesawu sylwadau cynghorydd Llafur a ddywedodd y dylai datblygiad tai Penybanc ger Rhydaman gael ei alw i mewn i’r Cynulliad.
Yn ôl Rhodri Glyn Thomas AC mae sylwadau’r Cynghorydd Calum Higgins o Dŷ-Croes yn dangos “rhywfaint o feddwl annibynnol o fewn y blaid Lafur yn Sir Gaerfyrddin”, ond ei fod yn tynnu’n groes i farn gweddill y grŵp Llafur ar y datblygiad o 289 o dai.
Ond mae cynghorydd Llafur arall, Peter Cooper o Saron, wedi dweud ei fod yntau hefyd o blaid galw’r datblygiad i mewn, a’i fod wedi bod yn gwrthwynebu’r datblygiad “ers cyn bod Rhodri Glyn Thomas ble mae e nawr.”
‘Diffyg profiad ddim yn esgus’
Wrth gyfeirio at sylwadau’r Cynghorydd Calum Higgins
Rhodri Glyn Thomas
, o blaid galw’r datblygiad mewn, dywedodd Rhodri Glyn Thomas:
“O ystyried y ffaith bod cynghorwyr Llafur wedi pleidleisio o blaid y cais cynllunio, nid ydym yn gwybod a yw hyn yn ymdrech fwriadol gan y blaid Lafur i gamarwain y cyhoedd am eu sefyllfa, neu a yw diffyg profiad cynghorydd Tycroes yn golygu nad yw’n ymwybodol o sut y pleidleisiodd ei gydweithwyr yn y blaid,” meddai Rhodri Glyn Thomas.
“Fodd bynnag, dyw diffyg profiad ddim yn esgus dros ragrith.
“Yn awr bydd yn rhaid i Calum i wynebu rhai cydweithwyr dig iawn oherwydd ei gefnogaeth i Blaid Cymru.”
Llafur hefyd yn gwrthwynebu’r tai
Ond mae cynghorydd Llafur, sy’n un o ddau sy’n cynrychioli Penybanc, wedi dweud fod Llafur wedi bod yn erbyn y datblygiad “ers blynydde” a’i fod yntau hefyd yn gobeithio bydd y Gweinidog Tai Carl Sargeant yn galw’r datblygiad i mewn.
“Fi ’di bod yn erbyn codi tai ar y safle yna ers 1997, cyn bod Rhodri Glyn Thomas ble mae e nawr,” meddai’r Cynghorydd Peter Cooper.
“Bydda i’n hapus os byddan nhw’n galw datblygiad mewn, a gobeithio byddan nhw’n rhoi stop iddo fe,” meddai.
Dywedodd Peter Cooper nad oedd hi’n gywir i ddweud fod Llafur wedi bod o blaid y cynllun tai a Phlaid Cymru yn ei erbyn.
“Pleidleisiodd dau aelod o Blaid Cymru o blaid y datblygiad yn y pwyllgor cynllunio,” meddai.
Mae ymgyrchwyr wedi pryderu am effaith codi 289 o dai ar y Gymraeg mewn ardal ble mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn i 54%.
“Son ni’n gwbod beth fydd effaith e ar y Gymraeg,” meddai Peter Cooper am y datblygiad.
“Os yw e’n cael mynd yn ei flaen mae’n debyg taw codi’r tai yn raddol byddan nhw’n gwneud, dros gyfnod o ryw wyth mlynedd.”