Mae’r A465 trwy Gwm Nedd wedi ei chau yn dilyn “gwrthdrawiad difrifol” rhwng lori a fan, medd yr heddlu.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 3.40 brynhawn yma, ger Resolfen, i’r gogledd-ddwyrain o Gastell Nedd.

Mae heol yr A465 rhwng Aberdulais a Resolfen wedi ei chau, ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y B4242 sydd hefyd yn rhedeg trwy Gwm Nedd.