Roedd angladd y Farwnes Thatcher wedi costio tua £3.6 miliwn i’r trethdalwr, meddai Downing Street heddiw.
Mae’n cynnwys £2 miliwn o gostau tuag at swyddogion yr heddlu a fyddai wedi bod ar ddyletswyddau eraill ar y diwrnod hwnnw.
Fe gadarnhaodd Rhif 10 y byddai teulu’r cyn brif weinidog yn gwneud cyfraniad tuag at y gost.
Cafodd angladd seremonïol Margaret Thatcher ei gynnal gydag anrhydeddau milwrol llawn yng Nghadeirlan Sant Paul ddydd Mercher diwethaf.