Cronfa Llanisien
Mae cais cynllunio gan gwmni Western Power Distribution (WPD) i godi dros 300 o dai ar safle cronfa Llanisien yng Nghaerdydd wedi’i wrthod.
Roedd y cais i’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant yn cynnwys caniatâd cynllunio ar gyfer 324 o dai preswyl, llyn hwylio a chlwb, cynefin gwlyptiroedd a chanolfan addysgol/gymunedol.
Dyma’r ail waith i weinidog Llywodraeth Cymru wrthod apêl cynllunio WPD am ddatblygiad sylweddol ar y safle.
Mae’r penderfyniad heddiw wedi cael ei groesawu gan y gymuned leol, amgylcheddwyr a gwleidyddion lleol sydd wedi bod yn brwydro am fwy na degawd yn erbyn datblygu’r safle.
Maen ymgyrchwyr nawr yn galw am ail lenwi’r gronfa a throi’r tir yn barc gwledig er mwyn i’r gymuned leol ei fwynhau.