Mark Drakeford
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cyhoeddi mesurau i fynd i’r afael ag oedi mewn adrannau brys ysbytai.

Dywedodd Mark Drakeford fod angen gwneud mwy i sicrhau fod cleifion  yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn hytrach nag yn llenwi gwlâu heb fod angen, a’i fod yn mynd i gwrdd â’r byrddau iechyd i fynd i’r afael â’r broblem.

Dywedodd fod nifer yr henoed sy’n sâl wedi rhoi adrannau brys dan bwysau dros y chwe mis diwethaf.

“Mae pob rhan o’r Deyrnas Gyfunol yn profi’r pwysau hyn ond mae gan Gymru’r gyfran fwyaf o bobol dros 85 ac mae’r nifer yn cynyddu ar y raddfa gyflymaf,” meddai.

Wythnos ddiwethaf daeth i’r amlwg fod ambiwlansys wedi treulio 55,000 o oriau yn aros y tu allan i ysbytai Cymru dros y chwe mis diwethaf.

Llenwi gwlâu heb fod angen

Cyhoeddodd Mark Drakeford na fydd cleifion sy’n disgwyl am eu dewis cyntaf mewn cartref gofal yn cael cymryd gwely mewn ysbyty tra eu bod nhw’n disgwyl am le, ac y byddan nhw’n cael llety addas dros-dro yn ei le.

Dywedodd hefyd na fydd cleifion hŷn mwyach yn cael llenwi gwlâu mewn ysbytai tra bod anghytundeb dros bwy sy’n talu am eu gofal nhw rhwng y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae hefyd wedi galw am gyflymu cyflwyno llinell gymorth 111 ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys.