Mae merch ysgol o Sir Ddinbych wedi marw ar ôl cael ei tharo’n wael ddydd Sul.

Roedd Tesni Edwards, 14, o Landrillo, ger Corwen, yn ddisgybl yn Ysgol Dinas Brân yn Llangollen.

Roedd hi yn Llangollen pan gafodd yr ambiwlans ei alw ddydd Sul i ymateb i “argyfwng meddygol”. Cafodd ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Maelor Wrecsam ond bu farw yno.

Nid yw  ei marwolaeth yn cael ei drin fel un amheus ond mae’r crwner yn cynnal ymchwiliad.

‘Merch hyfryd’

Dywedodd pennaeth Ysgol Dinas Brân, Alison Duffy: “Roedd Tesni yn ferch hyfryd, siriol, fywiog oedd â photensial mawr.

“Roedd ganddi amryw o ffrindiau yn ei dosbarth ac ar draws y flwyddyn ac roedd pawb yn hoff ohoni.

“Roedd hi’n ddisgybl gwych ac yn bleser i’w dysgu.

“Rydym ni wedi ein synnu gan ei marwolaeth sydyn. Mae staff a disgyblion wrthi’n cofio’r holl amserau da drwy ysgrifennu negeseuon mewn llyfr i’w theulu.

“Rydym ni’n estyn cydymdeimlad a’n gweddïau i’w theulu ar adeg anodd iawn.”