Mae ffilmiau David Puttnam wedi ennill 10 Oscar a 25 BAFTA, ac ar y cyntaf o Fai mi fydd yn dod i Gymru i drafod cynnwys Adroddiad Leveson a chyflwr y cyfryngau.

Bydd y ddarlith ‘The Lessons of Leveson: Media Regulation in an Internet Age’ yn dechrau am 6.00pm ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau , Prifysgol Bangor.

Ymysg y ffilmiau gynhyrchodd Puttnam mae Chariots of Fire, The Killing Fields a Memphis Belle.

Galw am reoli’r cyfryngau

Mae‘r Arglwydd Puttnam wedi galw am “reoleiddio’r cyfryngau, a hynny‘n hollol annibynnol ar y llywodraeth, a chyda chefnogaeth pwerau gorfodaeth sifil perthnasol” er mwyn sicrhau “democratiaeth iach yn yr unfed ganrif ar hugain”.