Y dderwen ym Mhontfadog cyn iddi ddymchwel
Mae’r goeden dderwen hynaf yng Nghymru wedi disgyn yn dilyn gwyntoedd cryfion neithiwr.
Roedd y goeden ym Mhontfadog yn Nyffryn Ceiriog – oedd yn mesur 12.9 metr yr holl ffordd o’i chwmpas – wedi bod yn sefyll ers 1,200 o flynyddoedd.
Mae yna le i gredu ei bod yn un o goed derw hynaf Prydain.
Yn ôl chwedloniaeth, cafodd y goedwig lle’r oedd y goeden wedi’i lleoli ei thorri i lawr gan filwyr Harri’r II yn 1165, ond goroesodd hi’r ymosodiad.
I ddathlu Jiwbili’r Frenhines y llynedd, cafodd ei enwi ymhlith y 50 o goed derw gorau ym Mhrydain.