Yn ôl adroddiad, dylai carchar Abertawe gynnig mwy o gymorth i garcharorion sy’n cymryd cyffuriau ac sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad.
Dywed yr adroddiad fod diffyg monitro, hyfforddi a phresgripsiynau ar gyfer defnyddwyr sylweddau pan maen nhw’n dod i’r carchar.
Mae dau draean o staff y carchar heb eu hail-hyfforddi ar fonitro hunan-niweidio, ac mae tri charcharor wedi marw yno yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ychwanegodd yr adroddiad fod y berthynas rhwng staff a charcharorion yn dda, bod y carchar yn lân a bod yr uned cefnogi defnyddwyr cyffuriau’n gam positif ymlaen.
Dywed Uwch Arolygydd Carchardai Ei Mawrhydi, Nick Hardwick nad oes digon o leoedd ar gael mewn sesiynau gweithgareddau, ac nad yw’r lleoedd ar gyfer gweithdai’n cael eu llenwi bob amser.
Ond roedd e’n fodlon bod y carchar wedi llwyddo ar y cyfan ers yr adroddiad diwethaf yn 2010.
‘Cynnydd’
Dywedodd: “Mae Abertawe wedi gwneud cynnydd o ran diogelwch ond mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod carcharorion sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad neu hunan-niweidio yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Ychwanegodd fod llawer gormod o garcharorion yn ddi-waith ac nad ydyn nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau pwrpasol.
Yn ogystal, dywedodd fod carcharorion yn treulio gormod o amser yn eu celloedd.
Dywedodd prif weithredwr y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol, Michael Spurr: “Rwy’n falch bod yr Uwch Arolygydd wedi cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Ngharchar Ei Mawrhydi yn Abertawe.
“Mae’r llywodraethwr a’i staff yn gweithio tuag at fynd i’r afael â meysydd i wella a nodwyd yn yr adroddiad.”