Mark Drakeford
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud y bydd yn cryfhau rôl y teulu yn y Bil newydd ar roi organau.
Ond er mwyn gwrthod rhoi organau byddai’n rhaid i’r teulu gadarnhau fod y person sydd wedi marw wedi gwrthwynebu rhoi ei organau.
Pleidleisiodd yr aelodau Cynulliad o blaid egwyddorion y Bil Trawsblannu Dynol ddoe ar ddiwedd cymal cyntaf y broses ddeddfu ond mynegodd rhai eu pryder am ddiffyg eglurder ar rôl y teulu.
Dywedodd Mark Drakeford y bydd y teulu’n cael ymgynghori gyda’r awdurdodau cyn bod organau’n cael eu cymryd.
“Mae’n hynny’n hollbwysig er mwyn cael gwybodaeth angenrheidiol am y rhoddwr posibl ac er mwyn sicrhau nad yw organau’n cael eu rhoi os oedd yn hysbys fod y claf yn gwrthwynebu hynny.
“Bydd y sefyllfa honno bellach yn cael ei hadlewyrchu ar wyneb y Bil,” meddai Mark Drakeford.
Bydd manylion y Bil nawr yn cael eu hystyried gan y pwyllgor iechyd a bydd cyfle gan y Cynulliad i drafod y Bil yn fanylach yn y siambr maes o law.
Roedd dau aelod o’r pwyllgor iechyd wedi pleidleisio yn erbyn y Bil pan wnaeth y pwyllgor ei ystyried fis diwethaf. Yr egwyddor o gydsyniad tybiedig, sef tybio fod pobol yn barod i roi eu horganau, oedd y rheswm dros y gwrthwynebiad bryd hynny.