Cefnogwyr Caerdydd yn dathlu neithiwr
Mae Malky Mackay wedi rhoi teyrnged i gefnogwyr a staff clwb Caerdydd ar ol i’r tîm gyrraedd yr Uwch Gynghrair o’r diwedd yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Charlton yn Stadiwm y Ddinas neithiwr.

Pwynt yn unig oedd ei angen ar Gaerdydd i sicrhau eu bod yn gorffen y tymor yn y ddau uchaf yn y Bencampwriaeth, ac er mai gêm ddi sgôr a di fflach a gafwyd doedd y cefnogwyr yn poeni dim am hynny wrth iddyn nhw lifo ar y cae i ddathlu wedi’r chwiban olaf.

“Rwy’n falch iawn o’r clwb,” meddai’r rheolwr. “Mae’n achlysur mae pobol y clwb yma wedi bod yn disgwyl amdano ers tro.”

Mynnodd y bydd Caerdydd yn addasu i’r adran newydd.

“Rydym ni’n ymuno ag un o gynghreiriau gorau’r byd. Rydym ni’n mynd i gynllunio’n iawn, ac mae hynna wedi dechrau’n barod a byddwn ni’n ei weithredu nawr.

“Rydym ni wedi bod yn gystadleuol yn y gynghrair yma ac wedi rhoi gêm dda i bob tîm rydym ni wedi chwarae yn ei erbyn. Ni fydd hynna’n newid yn yr Uwchgynghrair,” meddai’r Albanwr.

Mae gan Gaerdydd dair gêm yn weddill y tymor yma, gyda’r gêm olaf yn erbyn y clwb sy’n ail – Hull – ar Fai 4. Erbyn hynny mae’n debygol bydd Caerdydd wedi cael eu cadarnhau’n bencampwyr y Bencampwriaeth.

Mae angen i Hull ennill pob gêm a Chaerdydd beidio ennill yr un o’r tair er mwyn disodli’r Adar Gleision o’r brig.

Blwyddyn lwyddiannus i bêl-droed Cymru

Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Rosemary Butler, wedi llongyfarch clwb Caerdydd ar ennill dyrchafiad a nawr eisiau eu gweld nhw’n gorffen ar y brig o flaen Hull.

“Mae hyn yn newyddion ardderchog i gefnogwyr Caerdydd sydd, o’r diwedd, yn gweld eu tîm yn ennill dyrchafiad i’r uwch gynghrair ar ôl bod o fewn trwch blewyn i wneud hynny yn ystod y pedair blynedd diwethaf,” meddai’r Llywydd.

“Rwy’n siŵr y bydd y tîm yn awr yn mynd ymlaen i ennill y teitl gan ei bod bob amser yn swnio’n well cael eich dyrchafu fel pencampwyr.

“Mae hefyd yn ganlyniad gwych arall mewn blwyddyn sy’n prysur ddatblygu’n un o’r blynyddoedd mwyaf llwyddiannus i bêl-droed Cymru. Dymuniadau gorau i Ddinas Caerdydd a’u cefnogwyr yn yr uwch gynghrair y tymor nesaf.”