Wrecsam 1–1 Braintree

Gêm gyfartal gôl yr un gafwyd ar y Cae Ras nos Fawrth wrth i Wrecsam groesawu Braintree i ogledd Cymru.

Doedd dim llawer o bwysigrwydd i’r gêm gyda’r Dreigiau eisoes wedi sicrhau eu lle yn safleoedd y gemau ail gyfle a Braintree yn ddiogel yng nghanol y tabl, felly efallai mai gêm gyfartal oedd i’w disgwyl.

Arweiniodd y chwaraewr reolwr, Andy Morrell, gydag esiampl yn nhrydydd munud y gêm pan gododd y bêl yn gelfydd dros y gôl-geidwad i roi Wrecsam ar y blaen.

Ond chwarter awr yn unig a barodd y fantais cyn i Ben Wright unioni mewn steil gyda foli daclus.

Wrecsam a gafodd y gorau o’r ail gyfnod ond doedd dim gôl fuddugol i fod.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn bedwerydd yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square ond dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn eu gwahanu hwy a Grimsby yn y pumed safle gydag un gêm o’r tymor arferol ar ôl.

Bydd rhaid i’r Dreigiau aros i wybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle felly. Os ydynt yn gorffen yn bedwerydd, gêm ddarbi Gymreig yn erbyn Casnewydd fydd hi ond os yw Grimsby yn eu goddiweddyd ar y Sadwrn olaf, Mansfield neu Kidderminster fydd eu haros.

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Wright, Ashton, Clowes, Artell, Harris, Hunt, Evans, Wright (Reid 6′), Ormerod, Morrell (Adebola 88′)

Gôl: Morrell 3’

.

Braintree

Tîm: McDonald, Habergham, Massey, Wells, Symons, Davis, Sparkes (Mulley 68′), Woodyard, Peters, Sheppard (Holman 67′), Wright

Gôl: Wright 18’

Cardiau Melyn: Woodyard 64’, Symons 69’

.

Torf: 2,312