Luton 2–2 Casnewydd
Cafwyd cadarnhad ar Ffordd Kenilworth nos Fawrth mai yn drydydd y bydd Casnewydd yn gorffen y tymor yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square.
Gêm gyfartal oedd hi rhwng Luton a’r ymwelwyr o dde Cymru diolch i ddwy gôl yr un gan Andre Gray a Christian Jolley.
Dim ond ychydig dros ddeg munud oedd wedi mynd pan roddodd Gray y tîm cartref ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Daeth Jolley i’r cae fel eilydd i Gasnewydd ar gyfer yr ail hanner gan greu argraff yn syth wrth unioni’r sgôr wedi saith munud.
Tarodd Luton a Gray yn ôl gyda gôl dda o bellter ddeuddeg munud o’r diwedd ond unionodd Jolley am yr eildro i sicrhau pwynt i dîm Justin Edinburgh.
Mae’r pwynt hwn yn golygu y bydd Casnewydd yn gorffen y tymor yn drydydd yn nhabl y Gyngres ac yn chwarae un ai Wrecsam neu Grimsby yn y gemau ail gyfle.
.
Luton
Tîm: Brill, Rowe-Turner, McNulty, Griffiths, Lawless (Howells 65′), Martin, Robinson, Smith, Taiwo, Shaw (Wall 66′), Gray
Goliau: Gray 12’, 79’
Cerdyn Melyn: Howells 81’
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Hughes, James, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Willmott, Donnelly (Flynn 69′), O’Connor (Jolley 46′), Washington (Crow 72′)
Goliau: Jolley 52’, 84’
.
Torf: 5,125