Mae Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies wedi dweud ei fod am geisio sicrhau dadl yn San Steffan ar effeithiau’r tywydd garw ar ffermwyr ucheldir Cymru – a hyn er gwaetha’r ffaith bod amaeth wedi ei ddatganoli.

Mae’r Gweinidog dros Adnoddau Naturiol a Bwyd Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y diwyiant amaethyddol, wedi gwrthod rhoi cymorth ariannol i’r ffermwyr er bod ffermwyr mewn rhannau eraill o Brydain sydd hefyd wedi diodde oherwydd yr eira trwm wedi cael cymorth ariannol brys.

Dywed Alun Davies na fuasai hyn yn deg oherwydd y cymorth sy’n cael ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

“Mae rhai o ffermwyr bryniau Maldwyn yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael i lawr gan yr hyn mae nhw’n ei ddisgrifio agwedd LLywodraeth Cymru sy’n ymddangos fel tae nhw yn diystyru’r problemau sy’n eu wynebu.”, meddai Mr Davies wrth ysgrifennu ar safle ei flog.

Mae wedi addo cyflwyno cais am ddadl ar effaith y twydd garw ar y ffermwyr pan fydd yr aelodau seneddol yn dychwelyd i Dy’r Cyffredin yfory.

“Dwi eisiau i’r aelodau seneddol ddeall beth sydd wedi digwydd” meddai. “Mae wedi bod yn goblyn o drasiedi ac mae’n bwysig bod y genedl yn gwybod am ei maint, a’r loes sydd wedi ei achosi i’r ffermwyr.”

Mae undebau amaeth a mudiad y ffermwyr ifanc wedi anfon llythyr ar y cyd at y Gweinidog ym Mae Caerdydd yn galw am help ariannol brys i ffermwyr sydd wedi dioddef colledion yn y tywydd gwael.

Yn ôl cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru, CLA a CFfI mae angen i Lywodraeth Cymru “ddangos eu bod nhw’n poeni am ffermwyr” a rhoi cymorth ariannol, fel sy’n digwydd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.