Mae’r BBC yn honni bod 70 gwaith mwy o bobol yn cael eu taro gan y ‘dreth stafelloedd gwely’ nag sydd yna o gartrefi llai ar eu cyfer.

Maen nhw wedi holi perchnogion tai cymdeithasol a deall fod tua 29,000 o deuluoedd mewn tai sy’n cael eu hystyried yn rhy fawr ond mai dim ond tua 400 o dai un-llofft sydd ar gael ar eu cyfer.

O dan reolau newydd budd-dal, fe fydd tenantiaid sydd â stafelloedd gwely tros ben yn colli peth o’u harian ac, os na fyddan nhw’n gallu talu fe allen nhw gael eu troi allan.

Dyw’r ffigurau ddim yn ystyried rhai teuluoedd a fyddai’n symud i lawr i dai gyda mwy nag un llofft ond, yn ôl yr elusen Shelter Cymru, mae’r ffigurau’n arwydd o faint yr argyfwng.

‘Costio mwy’

Maen Shelter wedi galw ar landlordiaid cymdeithasol i beidio â thaflu pobol o’u cartrefi oherwydd llofftydd sbâr yn unig.

Yn ôl y Prif Weithredwr, John Puzey, fe fyddai’r gost o droi pobol allan a rhoi llety gwely a brecwast iddyn nhw yn costio mwy yn y pen draw na’r arbediadau budd-dal.

Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wario arian cyfalaf ar godi rhagor o dai cymdeithasol un a dwy lofft.