Fe fydd cau lladd-dy yn Ynys Môn yn ergyd i’r holl ddiwydiant cig coch yng Nghymru, meddai Cadeirydd Hybu Cig Cymru.

Maen nhw’n  honni y gallai’r cwmni marchnata ei hun golli cymaint â £500,000 y flwyddyn am fod lladd-dy Welsh Country Foods yn y Gaerwen yn cau ar ôl i’r perchnogion, Vion, fethu â chael prynwyr iddo.

Y peryg yw y bydd rhaid i ffermwyr yn y Gogledd fynd â’u hŵyn tros y ffin i Loegr i’w lladd ac y bydd hynny’n golygu colli arian i HCC.

Maen nhw’n cael arian lefi ar bob creadur sy’n mynd trwy ladd-dai yng Nghymru ac mae 640,000 o ŵyn wedi bod yn cael eu lladd yn lladd-dy Welsh Country Foods bob blwyddyn.

‘Trychineb’

“Mae methiant Vion i sicrhau prynwr ar gyfer Welsh Country Foods yn ergyd farwol i brosesu cig ar raddfa eang yng ngogledd Cymru,” meddai Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies.

“Mae’n drychineb fod Cymru’n colli un o’r ffatrïoedd prosesu mwya’ yng ngwledydd Prydain, gyda phwysigrwydd strategol arbennig i’r diwydiant yng ngogledd Cymru.”

Fe fyddai colli arian yn llesteirio gwaith Hybu Cig Cymru i farchnata cig oen Cymreig.

Beirniadu

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am fethu ag amddiffyn y lladd-dy a’r mwy na 300 o swyddi sy’n cael eu colli yno.

“Rhaid i ni gael gwybod pa gamau a gymerodd y Llywodraeth i geisio atal y cau dinistriol hwn,” meddai Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol tros ogledd Cymru, Aled Roberts.

Mae’n dweud bod angen gweithredu ar y cyd i geisio dad-wneud y drwg.

Llywodraeth yn ‘siomedig’

Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn “siomedig” gyda’r newyddion am y cau a’u bod wedi gweithio gyda Vion i geisio dod o hyd i brynwr.

Roedden nhw wedi bod yn allweddol wrth helpu’r cwmni i werthu canolfan gig coch arall ym Merthyr, meddai llefarydd, a dwy ffatri gywion ieir yn Llangefni a Sandycroft yn Sir y Fflint.