Mae gyrrwr lori 26 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dwy lori ar ffordd ddeuol yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.
Cafodd yr heol ei chau am gyfnod yn dilyn y ddamwain am 5.56 y bore ’ma wrth droad Maesybont ger Llanddarog. Bu arbenigwyr yn archwilio’r safle ond mae’r heol bellach wedi ailagor.
Mae unrhyw un a welodd y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu Dyfed Powys yng ngorsaf Caerfyrddin ar 101.