Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am ddau ladrad gwahanol yn sir Penybont.
Ceisiodd dau ddyn dorri mewn i dŷ ar Heol Merthyr Mawr ger tref Penybont am 1.20 brynhawn llun.
Cafodd y dynion eu tarfu gan breswylydd y tŷ ar stryd The Dell a rhedon nhw i ffwrdd i gyfeiriad y clwb tenis cyfagos.
Roedd un o’r dynion yn ei 20au canol, rhwng pum troedfedd 10 modfedd a chwe throedfedd o daldra, yn wyn gyda gwallt du byr. Roedd ganddo fan geni bach ar ochr chwith ei wyneb ac roedd yn gwisgo trowsus loncian llwyd a hwdi tywyll.
Roedd ei gydymaith hefyd yn wyn, yn fyrrach – tua pum troedfedd wyth modfedd – yn denau gydag wyneb main, gwallt brown neu felyn, a roedd hefyd yn gwisgo hwdi tywyll.
Pontycymer
Rhwng 5 o’r gloch brynhawn Llun a 8.30 fore Mawrth cafodd offer adeiladu eu dwyn o dŷ teras sy’n cael ei adnewyddu ym Mhontycymer.
Cyrhaeddodd adeiladwr yn y tŷ ar Oxford Street fore Mawrth i weld fod rhywun wedi torri i mewn trwy ddrws y cefn.
Toc wedyn gwelodd yr adeiladwr dri dyn mewn lôn wrth gefn y stryd ac roedd un ohonyn nhw’n dal bocs dril oedd wedi ei ddwyn o’r tŷ. Diangodd y dynion wrth i’r adeiladwr nesáu.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar bobol sydd â gwybodaeth i gysylltu â CID Penybont ar 01656 679518 neu drwy ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.