Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae llywodraeth Syria wedi lladd o leiaf 4,300 o’i phobl ei hun mewn ymosodiadau o’r awyr ers yr haf diwethaf, yn ôl un mudiad dyngarol.
Dywed Human Rights Watch fod awyrennau rhyfel y wlad yn targedu pobl mewn ciwiau bwyd ac ysbytai yn rhan ogleddol y wlad.
Dros y misoedd diwethaf, mae rhannau o ogledd Syria – yn enwedig ardaloedd ar hyd y ffin â Twrci – wedi syrthio i afael gwrthryfelwyr sy’n ceisio dymchwel yr Arlywydd Bashar Assad.
“Mae’n ymddangos mai nod yr ymosodiadau o’r awyr yw dychryn pobl gyffredin o’r awyr, yn enwedig yn yr ardaloedd o dan reolaeth y gwrthryfelwyr lle bydden nhw’n weddol saff fel arall,” meddai Ole Solvang ar ran Human Rights Watch.
Dywed nad oes unrhyw darged milwrol o fewn golwg yn y mwyafrif o’r ymosodiadau hyn o’r awyr.
Mae’n ymddangos mai diben yr ymosodiadau yw rhwystro’r gwrthryfelwyr rhag llywodraethu’r ardaloedd sydd o dan o eu rheolaeth.