Lee-Anna Shiers
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae’r achos wedi dechrau yn erbyn dynes 42 oed sydd  wedi’i chyhuddo o lofruddio pum aelod o’r un teulu mewn tân ym Mhrestatyn.

Mae Melanie Smith yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn.

Bu farw Lee-Anna Shiers, oedd yn 20 oed, ei nai pedair oed, Bailey a’i nith dwy oed, Skye pan ledodd y tân drwy eu cartref ym Maes y Groes ym Mhrestatyn ar Hydref 19 y llynedd.

Cafodd mab 15 mis oed Lee-Anna Shiers, Charlie a’i dad, Liam Timbrell, 23 oed, eu hachub ond fe fu farw’r ddau yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Roedd Melanie Smith yn byw yn y fflat islaw’r teulu.

‘Dynes feddw a chenfigennus’

Dywedodd yr erlyniad wrth y llys fod y tân wedi cael ei ddechrau’n fwriadol gan Melanie Smith a’i bod hi wedi bod yn yfed yn drwm ar y diwrnod. Clywodd y llys ei bod hi wedi bod yn ymddwyn yn ymosodol tuag at Lee-Anna Shiers yn y ddeufis cyn y tân ac wedi arddangos cenfigen tuag ati. Clywodd y llys ei bod hi wedi sôn droeon am losgi’r tŷ.

Dywedodd yr erlynydd Ian Murphy QC fod Melanie Smith yn “arbennig o ddig” fod Lee-Anna Shiers yn cadw cadair wthio ei mab Charlie yn y cyntedd i’r fflatiau, a’i bod hi’n “swnllyd” yn y fflat fyny grisiau ac yn anniben.

Fflamau

Clywodd y llys mai’r person cyntaf i weld y tân oedd cymydog, Joe Shelley, oedd yn mynd allan i gwrdd â ffrindiau tua 9.50 y nos pan aroglodd fwg a chlywed dynes yn gweiddi: “Ni’n methu dod allan.”

Aeth i fynedfa’r tŷ a’i agor i weld fflamau “dwy neu dair troedfedd o uchder” yn y cyntedd.

“Roedd y cyntedd yn dew gan fwg a chamodd yn ôl, a chlywodd sŵn woosh a daeth y fflamau tuag ato gan ei wthio nôl,” meddai Ian Murphy.