Mae canolfan ger Aberystwyth sy’n trin problemau alcohol a chyffuriau wedi cau ar ôl mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Bu’n rhaid i ganolfan Rhoserchan gau’n wirfoddol ar Fawrth 28 oherwydd trafferthion ariannol.

Ond pe bai’n cael ei gwerthu, gallai’r ganolfan ail-agor yn y dyfodol agos.

Yn ôl rhai adroddiadau yn 2010, roedd cleifion o Gymru yn cael eu trosglwyddo i ganolfannau yn Lloegr yn hytrach na’r un yma a rhai tebyg yng Nghymru.

Ddoe daeth i’r amlwg fod menter gymunedol arall yng Ngheredigion, Pafiliwn Cyf, yn dod i ben. Pafiliwn Cyf oedd yn rhedeg Pafiliwn Pontrhydfendigaid ac maen nhw wedi beio’r hinsawdd economaidd, cwymp mewn defnydd gan gwmnïau teledu a phwysau gan y banc i dalu gor-ddrafft.

Mae’r pafiliwn ei hun yn eiddo i Ymddiriedolaeth Eisteddfodau Pantyfedwen a gall yr eisteddfodau barhau i gael eu cynnal yno.