Mae swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymchwilio i dân ar Safle Diwydiannol Newtown yn Cross Keys, sir Caerffili brynhawn ddoe.

Cafodd y trigolion lleol gyngor i aros yn eu tai a chau’r ffenestri a’r drysau wedi i’r tân gynnau tua un o’r gloch y prynhawn yn ffatri GLJ Recycling. Fe gafodd rhai lonydd eu cau hefyd oherwydd effaith y mwg.

Llosgwyd tua 700 tunnell o fetel sgrap yn y fflamau.