Dau geffyl o Gymru ddaeth yn ail a thrydydd yn ras y Grand National yn Lerpwl heddiw.

Auroras Encore (66-1) oedd yn fuddugol yn y ras dros y clwydi ar gwrs anodd Aintree. Ond yn ail a thrydydd yr oedd Cappa Bleu (10-1) a Teaforthree (16-1).

Evan Williams, yr hyfforddwr o Forgannwg, sy’n gyfrifol am Cappa Bleu, tra bod Teaforthree yn dod o stabal yr hyfforddwraig Rebecca Harris.