Mae’r Heddlu Trafnidiaeth yn chwilio am ddau ddyn a fu’n ymddwyn yn ymosodol tuag at swyddog trên yn ne Cymru.

Roedden nhw’n teithio ar drên 22.45 o Gaerdydd i Gaerfyrddin, nos Sadwrn Ionawr 26, ac mae’r heddlu wedi rhyddhau lluniau cylch cyfyng o ddau ddyn maen nhw eisiau eu holi.


Roedd y swyddog trên, dynes 51 oed, wedi gofyn i ddau ddyn ddistewi am eu bod nhw’n rhegi a gweiddi ar ei gilydd wrth drafod pêl-droed.

Dywedodd y plismon ymchwilio, Steve Barr: “Ar ôl gofyn am yr ail dro iddyn nhw ddistewi trodd y ddau a rhegi at y swyddog, a’i gwthio hi i ffwrdd.

“Parhaodd y ddau i weiddi wrth adael y trên ym Mhencoed.

“Er na chafodd y swyddog ei hanafu roedd hi wedi ei hypsetio gan ymddygiad y dynion, oedd yn hollol annerbyniol.

“Mae gan staff yr hawl i wneud eu gwaith heb ddioddef sarhad ac ymddygiad ymosodol,” meddai Steve Barr.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405040 neu’n ddi-enw drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.