Cafodd dyn ei ladd wrth syrthio 100 troedfedd ar y Glyder Fawr yn Eryri brynhawn ddoe.
Fe aed â’r cerddwr i Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn hofrennydd y Llu Awyr, ond fe fu farw’n fuan wedyn.
Fe fu’n rhaid i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen helpu dau gerddwr ifanc a oedd wedi mynd i drafferthion ar Garnedd Dafydd hefyd.
Ddydd Iau, roedd penaethiaid Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhybuddio pobl i osgoi cerdded yn y mynyddoedd yn y tywydd oer a gwyntog, oni bai eu bod nhw wedi paratoi’n drylwr a bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r offer angenrheidiol.