Fe allai cynlluniau dadleuol i symud gwasanaethau gofal dwys i fabis newydd o Ogledd Cymru  i Loegr gael eu hadolygu yn y dyfodol ar ôl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud ei fod am gael cyngor pellach ynglŷn â ffyrdd eraill o gadw’r gwasanaeth yn y gogledd.

Ym mis Ionawr roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi ei fwriad i symud gwasanaeth gofal dwys i fabanod o Ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri ar Lannau Mersi.

Cafodd y cynlluniau sêl bendith  y Cyngor Iechyd Cymunedol lleol ond roedd ’na wrthwynebiad chwyrn i’r bwriad gan ymgyrchwyr a gwleidyddion y gwrthbleidiau ynghyd ag ymgynghorwyr iechyd.

Ond heddiw fe gyhoeddodd Carwyn Jones ei fod am gael cyngor annibynnol pellach i weld a oes model arall ar gael er mwyn i’r gwasanaeth fod yn hunangynhaliol yn y Gogledd yn yr hirdymor, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael.

“Rwyf felly wedi penderfynu rhoi trefniadau ar waith i gael cyngor ar y posibiliadau yn y dyfodol ynghylch datblygu gwasanaethau newyddenedigol arbenigol yn y Gogledd. Bydd y cylch gorchwyl yn cynnwys dichonoldeb darparu gwasanaeth gofal dwys newyddenedigol yn y Gogledd.”

Ond yn y cyfamser, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn “gwbl briodol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn i ddarparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio â’r safonau hyn ar gyfer babanod yn y Gogledd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio Arrowe Park lle bo angen.”

‘Rhaid i wasanaethau iechyd newid’

Ychwanegodd na ddylid  ystyried ei benderfyniad  yn “feirniadaeth ar eu gweithredoedd mewn unrhyw ffordd. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod yn rhaid i wasanaethau iechyd newid yng Nghymru, ac yn yr achos penodol hwn rwy’n gofyn am gyngor ynghylch a fydd cyfle yn y dyfodol i ddarparu’r gwasanaethau newyddenedigol hyn yn y Gogledd.”

Roedd Carwyn Jones wedi cymryd cyfrifoldeb personol am y penderfyniad gan y byddai etholaeth Lesley Griffiths, y gweinidog iechyd ar y pryd, yn Wrecsam wedi cael ei effeithio.

Mae disgwyl i Carwyn Jones gyflwyno rhagor o fanylion maes o law.