Mae sefyllfa ariannol rhai o fyrddau iechyd Cymru o dan y chwyddwydr heddiw wrth i fwrdd iechyd mwyaf Cymru ddweud y gallai fod bron i £4 miliwn yn y coch ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Fe fydd rhaid i’r byrddau iechyd yng Nghymru sicrhau eu bod nhw wedi rhoi trefn ar eu cyfrifon erbyn Ebrill 1, ond mae cyfarwyddwr cyllid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn rhagweld y bydd wedi gorwario £3.9m a hynny er ei fod wedi cael £15m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru’r llynedd.
Mae ’na bryder bod nifer o’r byrddau iechyd eraill hefyd yn wynebu trafferthion ariannol ac maen nhw eisoes wedi cael clywed bod yn rhaid iddyn nhw gyflwyno cynlluniau i arbed miliynau o bunnoedd wrth i’r flwyddyn ariannol ddod i ben.
Mae gan y byrddau iechyd ddyletswydd gyfreithiol i gydbwyso eu llyfrau erbyn Ebrill 1.
Bydd y byrddau iechyd yn cwrdd yfory i drafod eu cynlluniau.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi £82 miliwn i’r byrddau iechyd mewn ymgais i’w helpu i roi trefn ar eu harian.
Mewn cyfarfod neithiwr, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y byddai’n rhaid iddyn nhw arbed hyd at £57 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Gallai tua £11 miliwn gael ei wario ar faterion staffio.
Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cwrdd fory i drafod eu sefyllfa nhw.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro eisoes wedi dweud y bydd rhaid iddyn nhw arbed £57.7 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Gallai cyflogau’r staff ostwng yn y cyfnod hwnnw o £35 miliwn.
Ond dywed Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Cwm Taf eu bod nhw’n disgwyl cyrraedd eu nodau nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Mae gan sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd gyllideb benodol i weithio oddi mewn iddi ac mae ganddyn nhw ddyletswydd statudol i gyflwyno gwasanaethau oddi mewn iddi.
“Byddwn ni’n derbyn drafft o’r cyfrifon diwedd blwyddyn ar ddechrau mis Mai, gyda’r sefyllfa derfynol yn cael ei chyhoeddi’n ffurfiol yn dilyn archwiliad allanol ym mis Mehefin.”