Am y tro cyntaf, mae pobl Cymru’n ailgylchu mwy na maen nhw’n ei roi yn y sbwriel.

Rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012 roedd awdurdodau lleol yng Nghymru wedi ailgylchu neu ailddefnyddio oddeutu 800,000 o dunelli o sbwriel, tra bod  oddeutu 700,000 o dunelli, wedi cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Daeth y ffigyrau o adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru  sy’n dweud lle yw pen taith deunydd sy’n cael ei allgylchu yn y cartref.

Dywedodd Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, Alun Davies: “Mae cryn drafod wedi bod yn y DU ar y mater yma, ac mae llawer yn credu bod y deunydd y maent yn ei ailgylchu ac yn ei ddidoli’n ofalus yn cyrraedd pen ei daith mewn safle tirlenwi.

“Cymru yw’r unig wlad yn y DU sy’n anfon llai i safleoedd tirlenwi ac yn ailgylchu mwy.

“Mae ailgylchu’n fanteisiol i’r amgylchedd ac mae hefyd yn cefnogi’r economi drwy greu swyddi yn y diwydiant gwastraff a rheoli adnoddau.

“Dyma pam fod casglu deunydd o ansawdd i’w ailgylchu yn rhan ganolog o’r cynllun gan fod modd i’r deunydd hwnnw gael ei ailbrosesu yma yng Nghymru. Trwy gadw’r deunydd yng Nghymru gallwn greu gwaith yn lleol ac ysgogi marchnadoedd.”