Mae adroddiad hir-ddisgwyliedig ar ddyfodol Tŷ’r Cyffredin yn gwrthod gwahardd Aelodau Seneddol o Gymru a’r Alban  rhag pleidleisio ar faterion sy’n ymwneud a Lloegr yn unig.

Ond mae Comisiwn McKay yn argymell y dylai Aelodau Seneddol o Loegr gael mwy o ddylanwad mewn materion sy’n effeithio ar Loegr yn unig.

Cafodd y Comisiwn ei benodi gan Lywodraeth y  DU er mwyn ymateb i bryderon bod gan Aelodau Seneddol o’r Alban a Chymru’r hawl i bleidleisio ar faterion yn ymwneud a Lloegr yn unig, ond nad oedd gan wleidyddion o Loegr yr hawl i bleidleisio yn y Cynulliad na Senedd yr Alban.

Dywed y Comisiwn bod pobl yn Lloegr yn “anhapus” gyda’r drefn bresennol a bod y sefyllfa yn “anghynaladwy” a bod angen newidiadau.

‘Lloegr dan anfantais’

Dywedodd cadeirydd y Comisiwn Syr William McKay: “Wrth i bwerau deddfu yn y DU symud i ffwrdd o San Steffan a thuag at y sefydliadau datganoledig, mae’n anochel bod y broses o ddeddfu yn San Steffan wedi canolbwyntio mwy ar Loegr (neu Loegr a Chymru).

“Ond nid yw’r broses ar gyfer creu cyfreithiau  yn San Steffan wedi newid yn sylweddol.

“Mae yna deimlad fod Lloegr  o dan anfantais, ac nad yw’n iawn y dylai ASau sy’n cynrychioli’r sefydliadau datganoledig gael pleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar Gymru.

“Mae ein hargymhellion yn cadw hawl y mwyafrif yn y DU i wneud penderfyniadau terfynol lle maen  nhw’n credu y dylai buddiannau’r DU neu ran arall o’r DU yn hytrach na Lloegr gael blaenoriaeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet:  “Mae hwn yn fater pwysig iawn a dyna pam wnaeth y Llywodraeth ofyn i’r comisiwn arbenigol edrych i mewn iddo. Byddwn yn rhoi ystyriaeth ddwys iawn i’r adroddiad cyn ymateb.”