Adam Price
Mae un o ffigurau amlycaf Plaid Cymru wedi galw am sefydlu tref newydd Gymraeg ar lannau Menai yng Ngwynedd.
Wrth siarad mewn cynhadledd ar ddyfodol cymunedau Cymraeg yng Nghaernarfon ddoe, dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Adam Price fod tref newydd o’r fath yn hanfodol i ddyfodol y Gymru Gymraeg.
“Mae’n amlwg fod angen ffordd wahanol o feddwl yn ein hymdrechion i amddiffyn ac adfywio cymunedau Cymraeg,” meddai.
“Mae canolfannau trefol yn holl-bwysig fel moduron datblygu’r economi, ac fe allai eco-dref newydd gydweithredol Gymraeg greu’r math o ddeinameg sydd ei angen.
“Gadewch inni greu ein tref newydd ein hunain a chreu ein mewnlifiad ein hunain – a lle gwell i wneud hynny nag lannau Menai, prifddinas y Gymru Gymraeg.”
Atgyfodi’r syniad o’r Fro Gymraeg
Yn yr un gynadledd, a drefnwyd gan yr asiantaeth iaith Hunaniaith yn y Galeri, galwodd Adam Price am un cyngor sir i holl ardaloedd y gorllewin, gan atgyfodi’r syniad o’r ‘Fro Gymraeg’.
“Gadewch i ni yn y gorllewin Cymraeg fynnu ad-drefnu llywodraeth leol ar ein telerau ni,” meddai. “Gadewch inni felly gipio ar y cyfle hanesyddol yma i uno’r Deheubarth a Gwynedd fel yn nyddiau Hywel Dda.”
Gan gydnabod bod amheuon wedi bod yn y gorffennol ynghylch syniadau o’r fath, dywedodd ei bod hi’n bryd symud ymlaen bellach.
“Roedd pryderon dealladwy yn y gorffennol y gallai’r syniad o Fro Gymraeg greu hollt yn y genedl,” meddai. “Ond bellach, ar ôl cael datganoli a ffurfio’n strwythurau cenedlaethol ein hunain, does dim angen inni fod â phryderon o’r fath.”
- Gweler dadansoddiad newydd o ffigurau’r cyfrifiad yn adran Iaith y wefan
http://www.golwg360.com/newyddion/iaith/104184-cyfrifiad-2011-yn-amlygu-prif-gadarnle-r-gymraeg