Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae pump o bobol wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 26 o flynyddoedd yn dilyn ymosodiad ar ddyn gyda batiau pêl fas.

Digwyddodd yr ymosodiad y tu allan i dafarn y Ship Aground yn Nhalsarnau ger Harlech fis Mai diwethaf, a chafodd Darrell Jones anafiadau difrifol i’w ben.

Ymosododd y criw hefyd ar ei frawd, Dylan Jones, sy’n filwr, a thorri ei fraich. Bu’n rhaid iddo yntau roi’r gorau i’w waith yn dilyn yr ymosodiad.

Cocên

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod un o’r diffynyddion, Siôn Hughes o Gerlan, Llanllyfni, wedi bod yn cymryd cocên yn nhoiledau’r dafarn a bod hynny wedi bod yn destun dadl rhyngddo ef a Darrell Jones.

Gadawodd Sion Hughes ond daeth yn ôl mewn car yn hwyrach.

Cafodd Darrell Jones ei daro yn ei ben gan frawd Siôn Hughes, Ashley. Cafodd Ashley Hughes ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar am ymosod a 18 mis am fod â chocên yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.

Cafodd Siôn Hughes ddedfryd o saith mlynedd a hanner mewn canolfan troseddwyr ifanc.

Cafodd dau lanc 16 oed ddedfryd o bedair blynedd a 18 mis mewn canolfan troseddwyr ifanc.

Cafodd Cari Elen Lewis, 25 oed, o Drefan, Penrhyndeudraeth, ddedfryd o ddwy flynedd a hanner am ei rhan hithau yn yr ymosodiad wrth yrru’r criw i’r dafarn ac oddi yno.