Gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd
Mae entrepreneur amlycaf Cymru, Syr Terry Matthews wedi dweud wrth raglen Week In, Week Out BBC Cymru y dylai Casnewydd ddod yn rhanbarth o Gaerdydd.
Honnodd y dylai de ddwyrain Cymru gael ei hail-frandio’n “Gaerdydd, y brand”.
Dywedodd y byddai Casnewydd yn elwa’n economaidd o fod yn rhan o’r brifddinas.
Cafodd Matthews ei eni yng Nghasnewydd ac fe sefydlodd gwmni telegyfathrebu yng Ngwent cyn mynd ymlaen i ddylunio a chodi Gwesty a Chwrs Golff y Celtic Manor, fu’n gartref i Gwpan Ryder yn 2010.
‘Hwb i’r economi’
Cyfaddefodd wrth y rhaglen fod ei sylwadau’n rhai dadleuol, ond bod “maint yn cyfrif”.
Ychwanegodd: “Pe bawn i’n frenin, awn i o Abertawe i Gasnewydd a rhoi cylch o’u cwmpas nhw a’r Cymoedd. Byddwn i’n dweud ‘Dyna Gaerdydd’.
Dywedodd wrth y rhaglen fod rhanbarthau dinesig yn rhoi hwb i’r economi ym mhob rhan o’r byd.
Yn y gorffennol, mae cynghorwyr Casnewydd wedi cyflwyno cynigion i gadw’r ddwy ddinas ar wahân.
Mae’r Cynulliad eisoes wedi clywed gan banel o arbenigwyr sy’n awyddus i uno’r ddwy ddinas.
Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd.
Bydd rhaglen Week In, Week Out yn cael ei darlledu ar BBC Cymru heno.