Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi galw am system ariannol i Gymru, am ddatganoli’r system les ac am greu asiantaeth ynni i Gymru.

Fe fydd Leanne Wood yn gwneud ei hargymhellion mewn araith yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd y prynhawn yma, flwyddyn ar ôl iddi gael ei phenodi’n arweinydd benywaidd cynta’r Blaid.

Fe fydd hi’n dweud mai’r economi yw ei phrif flaenoriaeth gan addo y bydd Plaid Cymru’n datblygu agwedd newydd er mwyn cael Cymru i “ffynnu”.

“Pan ges i fy ethol yn arweinydd fy mhlaid, fe wnes i’n glir fy mod am gael fy marnu ar un maes ac un maes yn unig – yr economi. Fe fydda’ i’n dal i ganolbwyntio’n gyson ar yr economi a chreu swyddi.”

Dyma ei phrif alwadau

  • System ariannol Gymreig a fyddai’n cynnwys Banc Cymru i fuddsoddi mewn busnesau Cymreig.
  • Asiantaeth ynni genedlaethol a fyddai’n buddsoddi mewn datblygiadau newydd.
  • Datganoli’r system les a chynyddu’r cyfanswm o gytundebau cyhoeddus sy’n dod i Gymru.

Mae hi hefyd eisiau sicrhau bod rhagor o gytundebau cyhoeddus Cymreig yn aros yng Nghymru a gwella cysylltiadau yng Nghymru, gan gynnwys rheoli’r drwydded reilffordd Gymreig a buddsoddi mewn technoleg ddigidol newydd, gyflym.