Llun Biggerben CCA3.0
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ergyd tros Faes Awyr Caerdydd wrth i gwmni hedfan arall roi’r gorau i deithio oddi yno.

Mae’r cwmni o’r Swistir, Helvetic Airways, am roi’r gorau i hedfan oddi yno yr haf nesa’, ar ôl atal eu teithiau trwy’r gaeaf.

Union ddwy flynedd yn ôl y dechreuodd y cwmni hedfan rhwng Caerdydd a Zurich ond roedden nhw eisoes wedi gorfod aros ym Mryste hefyd oherwydd prinder teithwyr.

Mae Llywodraeth Cymru ar fin prynu Maes Awyr Caerdydd wrth i’w incwm a nifer teithwyr gwympo’n gyson o flwyddyn i flwyddyn.