Mae’r gweinidog iechyd, Lesley Griffiths wedi galw ar gleifion i wneud penderfyniadau doeth wrth ystyried gofal meddygol, wrth i wasanaethau gofal brys yng Nghymru fod dan bwysau cynyddol.

Dywedodd Lesley Griffiths bod ysbytai yng Nghymru wedi derbyn nifer uchel o gleifion dros yr wythnos ddiwethaf.  Roedd dros 300 o gleifion wedi cael eu gweld  yn yr adran frys yn Ysbyty Treforys ger Abertawe ar ddechrau’r wythnos, ac roedd cynnydd o 25% mewn cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

‘Cyfnod heriol’

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi’n monitro’r sefyllfa, ond gofynnodd i gleifion ystyried o ddifrif os oedd angen gofal brys arnynt:

“Mae gan y cyhoedd ran bwysig i chwarae yn y cyfnod heriol yma drwy ddefnyddio’r gwasanaeth gofal fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion, a meddwl ddwywaith cyn mynd i’r adran gofal brys yn yr ysbyty neu ffonio 999.”

Mae wedi annog cleifion i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffonau symudol sy’n rhoi cyngor ar ba wasanaeth i’w ddefnyddio, yn seiliedig ar eu symptomau, er mwyn lleihau pwysau ar staff gofal brys.

“Mae staff y GIG yn parhau i weithio’n hynod o galed i ofalu am gleifion yn ystod y cyfnod yma o bwysau mawr ar ysbytai, a bydd swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn agos.”

Roedd y gweinidog hefyd yn awyddus i bwysleisio nad yng Nghymru’n unig mae pwysau mawr, a bod problemau tebyg yn effeithio Lloegr hefyd.

‘Sefyllfa bryderus iawn’

Ond mae’r newyddion wedi denu beirniadaeth gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams:

“Mae’r GIG yng Nghymru mewn sefyllfa bryderus iawn wedi degawd o gamreolaeth gan Lywodraeth Lafur Cymru.  Rydw i’n gweld y diffygion ar ymweliadau personol i ysbytai dros Gymru, ac yn derbyn nifer o gwynion, yn aml yn ddifrifol, gan etholwyr a thu hwnt.”

Honnodd Lesley Griffiths bod y Llywodraeth yn gweithio i leihau pwysau ar ysbytai drwy drafod strategaethau hefo byrddau iechyd, ac ail-leoli rhai gweithwyr meddygol i ardaloedd prysur.