Bethan Jenkins
Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio o blaid cynnig yn ceryddu Bethan Jenkins yn ffurfiol am ddwyn anfri ar y Cynulliad.

Cafodd hi ei herlyn am yfed a gyrru’r llynedd, ac mae ei habsenoldeb hi o’r Senedd heddiw wedi ennyn ymateb chwyrn.

Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud y dylai hi fod wedi bod yn y siambr heddiw ar gyfer y bleidlais o gerydd.

Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr dylai hi fod yno i “wynebu’r gosb fel unrhyw wleidydd cyfrifol.”

Ac mae Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo Bethan Jenkins o “ddangos diffyg parch at y Cynulliad.”

“Nid mater bach mo hwn,” meddai Peter Black.

Bethan Jenkins yn Llundain

Roedd Bethan Jenkins yn Llundain heddiw yn annerch gwrthdystiad gan gyn-weithwyr cwmni rhannau ceir Visteon, sy’n cynnwys pensiynwyr o ardal Abertawe.

Ar ei chyfrif Twitter dywedodd fod 700 o’i hetholwyr eu hangen hi a’i bod hi wedi hysbysu prif chwip y Blaid y byddai hi’n absennol.

Ond yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr, “Nid yn unig mae hi’n colli cynnig o gerydd arwyddocaol iawn, mae hi hefyd i ffwrdd o’r Cynulliad ar ddiwrnod busnes prysur.”

Cynnig Mick Antoniw

Roedd Mick Antoniw, AC Pontypridd, wedi cynnig y dylid ei cheryddu hi fel oedd yn cael ei argymell yn adroddiad Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad. Dywed yr adroddiad ei bod hi wedi dwyn anfri ar y sefydliad.

Roedd Bethan Jenkins wedi dweud ei bod hi’n derbyn y cynnig o gerydd.

Cafodd AC Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl pledio’n euog i yfed a gyrru yn Llys Ynadon Caerdydd fis Rhagfyr y llynedd.

Ers y digwyddiad, mae Bethan Jenkins wedi sôn am ei brwydr yn erbyn iselder.

Fis Mai’r llynedd roedd Keith Davies, AC Llanelli, yn bresennol yn y Senedd pan bleidleisiodd yr aelodau’n unfrydol o blaid ei geryddu yntau am ddigwyddiad mewn gwesty ym Mae Caerdydd.