Mae Llywodraeth Prydain yn dadlau yn erbyn datganoli llawer o bwerau i Gynulliad Cymru.

Yn ei thystiolaeth i Gomisiwn Silk ar bwerau’r Cynulliad mae Llywodraeth Prydain wedi codi amheuon am ddatganoli pwerau darlledu, ynni, y farnwriaeth, yr heddlu, prosiectau melinau gwynt dros 50mw, a dŵr.

Mae hi hefyd yn pwysleisio mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r gair olaf dros ymestyn unrhyw ofynion yn ymwneud â’r Gymraeg dros gyrff y Goron.

Yn ei thystiolaeth mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi cydnabod fod datganoli yn “anghymesur” a bod hynny’n adlewyrchu hanes pob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd fod adolygiad Comisiwn Silk yn “helpu i fapio cwrs ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru” a’i bod hi’n disgwyl i argymhellion y Comisiwn gael “cefnogaeth helaeth.”

Cadw pethau fel y maen nhw

O fewn ei thystiolaeth 114 tudalen dywed Llywodraeth Prydain fod:

  • “buddion sylweddol” i gadw un farnwriaeth i Gymru a Lloegr
  • Heddlua’n gweithio’n dda fel y mae a bod y cyswllt agos presennol gyda’r drefn yn Lloegr, a’r gost yn ddadleuon yn erbyn datganoli’r heddlu.
  • Angen i brosiectau ynni mawr gael eu hystyried “mewn cyd-destun ehangach” na dim ond Cymru.
  • Datganoli pŵer dros brosiectau ynni gwynt hyd at 100MW yn medru cael “effaith negyddol ar ynni a pholisi cynllunio” ac arwain at fwy o gymhlethdod yn y system gynllunio a datblygiadau “llai effeithlon, mwy bratiog a drutach.”
  • Nodweddion rheoli dŵr yng Nghymru yn gymhleth o achos y natur draws-ffiniol o ran rheoleiddio. “Ni fydd gwahanu systemau trawsffiniol bob amser yn ymarferol yn dechnegol ar gost resymol a gallai greu anawsterau rheoleiddio sylweddol,” medd Llywodraeth Prydain.
  • “rhesymau da pam na chafodd darlledu ei ddatganoli yn y setliadau datganoli ac nid oes dim tystiolaeth i awgrymu y byddai datganoli polisi darlledu neu ddull gwahanol o ariannu’r BBC o fudd i dalwyr ffi’r drwydded.”
  • Dim angen newid y berthynas bresennol rhwng S4C a Llywodraeth Prydain.
  • Y Cynulliad wedi deddfu ar yr Iaith Gymraeg yn 2011 cyn derbyn pwerau deddfwriaethol ychwanegol ym mis Mai’r flwyddyn honno. Felly, byddai angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol cyn bod cyrff y Goron yn gorfod cydymffurfio ag unrhyw Safonau Cymraeg medd Llywodraeth Prydain.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud fod y ddogfen yn gosod eu safbwyntiau yn glir “yn wahanol i’r grŵp Llafur sydd heb roi tystiolaeth.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth gan alw am fwy o rym dros yr heddlu, rhai prosiectau ynni, a thrafnidiaeth.

‘Diffyg sylwedd a chyfeiriad’

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS, wedi ymateb i dystiolaeth Llywodraeth y DU i’r Comisiwn Silk drwy feirniadu diffyg sylwedd a chyfeiriad y ddogfen.

Dywedodd Elfyn Llwyd: “Dyma ddogfen siomedig iawn sy’n dangos yn glir nad oes gan Lywodraeth y DU fawr o ddiddordeb mewn sicrhau setliad datganoli cryfach a mwy effeithlon i Gymru.

“Nid yw’n cynnig unrhyw wir uchelgais na gweledigaeth dros ein gwlad.

“Gellir maddau i rywun am ddisgwyl mwy o sylwedd mewn dogfen 114 tudalen ond yn anffodus mae’n llawn hen naratif ac yn dangos diffyg sylwedd a chyfeiriad.

“Dyma dystiolaeth bellach fod Llywodraeth y DU’n gwbl ddi-glem pan fo’r farn gyhoeddus yn y cwestiwn o ystyried fod sawl pôl diweddar yng Nghymru wedi dangos awydd am fwy o rym. Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos diffyg consensws rhwng y Glymblaid yn San Steffan a’i chyd-weithwyr yng Nghaerdydd sydd wedi eu tanseilio’n llwyr gan gyhoeddiad heddiw.”

Ychwanegodd:   “Mae Plaid Cymru’n llwyr gefnogi trosglwyddo pwerau dros feysydd allweddol megis cyfiawnder a heddlu, cynhyrchu ynni, darlledu a thrafnidiaeth er mwyn sicrhau gwell atebolrwydd a thryloywder mewn Cymru well.”