Bydd Cyfeillion y Ddaear yn rhybuddio sut y gall broses ddadleuol o ffracio arwain at “drychineb” i Gymru a’r blaned heddiw.
Bydd Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru yn rhoi tystiolaeth o flaen Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad heddiw. Daw’r cyfarfod ar ol i ddeiseb, ag arni fwy na 1,000 o enwau, gael ei chyflwyno gan Gyfeillion y Ddaear Cymru i’r pwyllgor.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, gallai canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy arwain at ddyfodol llewyrchus a chynaliadwy i Gymru.
‘Trychineb i’r blaned’
Yn ei dystiolaeth, bydd Gareth Clubb yn dweud wrth y Pwyllgor: “Mae’r awdurdod byd-eang ar ynni, yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol, wedi disgrifio ein rhuthr parhaus i fanteisio ar fwy a mwy o ffynonellau tanwydd ffosil newydd fel trychineb i’r blaned.
“Ond gall ynni adnewyddadwy gynnig dyfodol llewyrchus a chynaliadwy gan bweru Cymru a darparu swyddi dros gannoedd o flynyddoedd.”
“Er mwyn diogelu Cymru rhag trychineb hinsawdd mae’n rhaid i ni osod gohiriad ar dynnu nwy anghonfensiynol fel sydd wedi digwydd eisoes mewn rhannau eraill o Ewrop.
“Dylem ni symud mor gyflym ag y bo modd i bweru Cymru gan 100% o ynni adnewyddadwy, fydd yn darparu degau o filoedd o swyddi mewn economi werdd ffyniannus.”
Mae amgylcheddwyr yn dadlau y gallai’r broses o ffracio – sef chwistrellu dŵr a thywod i’r ddaear er mwyn gwneud i nwy godi o’r graig islaw – achosi niwed parhaol i’r amgylchedd gan gynnwys llygru cyflenwadau dŵr.