Doedd gan blismon a fu mewn ras farwol gyda throseddwr honedig ddim awdurdod i wneud hynny.

Ac roedd log yr heddlu wedi cael ei newid yn ddiweddarach, ar ôl damwain a laddodd ddyn 25 oed yng Nghaerdydd.

Yn ôl adroddiad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yng Nghymru, roedd yr hyn ddigwyddodd yn achos o gamymddwyn ac mae un o weithwyr y stafell reoli a heddwas wedi cael eu disgyblu.

Y digwyddiad

Yn ôl y Comisiwn, roedd swyddogion o Heddlu De Cymru wedi ceisio atal car a oedd yn cael ei yrru gan ddyn o’r enw Steve Freye yn oriau mân bore 10 Ionawr 2012.

Pan yrrodd hwnnw i ffwrdd, fe aeth car yr heddlu ar ei ôl ac wrth yrru trwy Fae Caerdydd fe drawodd car Steve Freye yn erbyn Kylke Griffith, 25 oed, a’i anafu’n angheuol.

Yn ôl y Comisiwn, doedd gan y plismon ddim awdurdod i ymlid car, doedd y gweithiwr yn y stafell reoli ddim wedi tynnu sylw swyddog uwch.

Hyfforddi

“Unwaith y daeth hi’n amlwg fod yr ymlid yn digwydd, fe ddylai fod wedi cael ei atal ar unwaith gan nad oedd y cerbyd na’r gyrrwr wedi eu hawdurdodi,” meddai’r Comisiynydd tros Gymru, Tom Davies.

Mae wedi gofyn i Heddlu De Cymru edrych eto ar ei systemau i hyfforddi gweithwyr yn y stafell reoli.