Mae Cadeirydd clwb pêl-droed Caerdydd wedi ymddiswyddo.
Dato Chan Tien Ghee o Malaysia oedd cadeirydd y cyfarwyddwyr a fe wnaeth berswadio ei gyd-wladwr a phrif-berchennog y clwb, Vincent Tan, i fuddsoddi yn yr Adar Gleision.
Mae Clwb Caerdydd wedi dweud fod ‘TG’ wedi ymddiswyddo o fod yn gadeirydd a chyfarwyddwr er mwyn “troi at gyfleoedd busnes newydd sy’n hawlio’i holl sylw.”
“O achos cyfyngiadau amser a phellter mae TG yn teimlo nad yw’n gallu cwrdd â holl ofynion ei swydd fel Cadeirydd ac fel aelod o fwrdd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd,” meddai’r clwb.
Ymunodd Dato Chan Tien Ghee gyda Chaerdydd yn 2010 a dywedodd y clwb ei fod “wedi bod yn allweddol yn natblygiad y clwb” a’u bod nhw’n gwerthfawrogi ei gyfraniad.
Wythnos yma mae cefnogwyr clwb Dinas Caerdydd wedi ymateb yn chwyrn i awgrym gan Vincent Tan ei fod yn ystyried newid enw’r clwb i Ddreigiau Caerdydd pe bai nhw’n dringo i’r Uwch Gynghrair.