Simon Easterby
Mae rheolwr y Scarlets, Simon Easterby wedi gwneud pump newid i’r tîm a ddechreuodd yn erbyn Leinster.  Mae Aled Thomas yn symud o safle’r cefnwr i chwarae maswr, Aled Davies fydd y mewnwr am y chweched gêm yn olynol.  Mae Owen Williams yn dechrau ar y fainc ar ôl dioddef salwch yn ystod yr wythnos.

Samson Lee fydd y prop pen tynn a bydd Jake Ball yn cymryd lle George Earle sydd wedi ei anafu, a bydd Jonathan Edwards yn dychwelyd ar ôl anaf i’r rheng ôl i gadw cwmni a Rob McCusker a Aaron Shingler.  Bydd y chwaraewr rhyngwladol Liam Williams yn dechrau fel cefnwr.

‘‘Nid ydym yn cymryd dim yn ganiataol ac mae’n rhaid gweithio’n galed.  Tîm ifanc oedd gan Caeredin y penwythnos diwethaf, ond bydd rhai o’i chwaraewyr rhyngwladol yn ôl ar gyfer y gêm hon ac yn teimlo yn dda iawn ar ôl curo Iwerddon,’’ meddai Simon Easterby.

‘‘Yr hyn sy’n bwysig i ni yw ein bod yn canolbwyntio ar ein perfformiad ac yn ennill y pedwar pwynt,’’ ychwanegodd.

Yn ôl Easterby mae yna ddiwedd cyffrous i’r tymor a digon i’w chwarae amdano,’’ ychwanegodd.

Safle’r Scarlets

Ar ôl colli i Leinster y penwythnos diwethaf mae’r Scarlets yn y pumed safle, un pwynt y tu ôl i’r Gweilch, ac wyth pwynt y tu ôl i Leinster sydd yn y trydydd safle.  Mae Caeredin yn y degfed safle ar hyn o bryd.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Nick Reynolds, Gareth Maule, Adam Warren, Andy Fenby, Aled Thomas a Aled Davies.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Johan Synman, Aaron Shingler, Johnathan Edwards a Rob McCusker (Capten).

Eilyddion – Matthew Rees, Rhodri Jones, Deacon Manu, Sione Timani, Kieran Murphy, Gareth Davies, Owen Williams a Kristian Phillips.