Mae cyn-fowliwr cyflym llaw chwith Awstralia, Dirk Nannes wedi ymuno â Morgannwg ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y T20 y tymor nesaf.
Mae Nannes, sydd hefyd wedi chwarae dros siroedd Surrey, Middlesex a Swydd Nottingham, wedi cynrychioli Awstralia a’r Iseldiroedd ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae’n cael ei ystyried yn chwaraewr sy’n arbenigo yn y fformat ugain pelawd.
Dywedodd pennaeth perfformiad elit Morgannwg, Matthew Mott: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Dirk i Forgannwg. Roedd e ar radar sawl clwb ac rydyn ni’n hapus iawn ein bod ni wedi ei arwyddo.
“Roedden ni’n edrych am fowliwr ymosodol a chlo gan eu bod nhw fel aur yn y fformat T20 o griced.
“Mae gan Dirk lu o brofiad yn y fformat hwn ac mae e wedi profi’i hun fel perfformiwr. Gyda’i brofiad o gystadlaethau ledled y byd, fe fydd e hefyd yn rhoi tipyn o dân ac elfen ymosodol i’n huned fowlio ni.”