Ar ôl dathlu ennill Cwpan Capital One bydd yn rhaid i dîm pêl-droed Abertawe ganolbwyntio yfory ar y gynghrair pan fyddan nhw’n chwarae Newcastle yn y Liberty.

Mae’r Elyrch wedi cael wythnos i’w thrysori ac a fydd yn aros yn y cof am amser hir i Ashley Williams, Garry Monk a gweddill y garfan.

‘‘Yr ydym wedi cael tri diwrnod i baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Newcastle, felly ni fydd dim esgusodion,’’ meddai amddiffynnwr yr Elyrch, Ashley Williams.

Mae Abertawe wedi profi yn barod y tymor hwn eu bod yn medru rhoi sawl perfformiad da yn olynol.  Cafwyd gêm gyfartal dros y Nadolig yn erbyn Reading, a hynny ar ôl cael pwynt yn erbyn Manchester United.

Yn dilyn y golled drwm i Lerpwl bythefnos yn ôl, mae’n siwr y bydd Laudrup yn dewis tîm cryf yn erbyn Newcastle.  Un gêm yr wythnos sydd gan Abertawe hyd ddiwedd y tymor ac felly mae’n debyg y bydd y rheolwr yn dewis ei dîm cryfaf ar gyfer pob gêm sy’n weddill.

Laudrup yn gofyn am fwy

Ar hyn o bryd mae gan yr Elyrch 37 o bwyntiau.  Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi annog ei chwaraewyr i ganolbwyntio ar y gemau gynghrair o nawr hyd ddiwedd y tymor.

‘‘Yr wyf yn meddwl y gallwn gyrraedd 50 o bwyntiau erbyn diwedd y tymor,’’ meddai Laudrup