Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi cytundebau newydd i bump o chwaraewyr, gan gynnwys Rhys Patchell.
Ynghyd â’r maswr addawol mae Sam Hobbs, Rhys Williams, Tom Davies a Richard Smith wedi cael cytundebau newydd.
‘‘Credaf fod angen i ni gadw ein chwaraewyr ifanc, a gobeithio bydd y chwaraewyr yr ydym yn barod wedi eu harwyddo ar gyfer y tymor nesaf fel Matthew Rees yn medru helpu i ychwanegu profiad i’r garfan. Bydd y garfan bresennol yn llawer gwell ac yn gryfach y tymor nesaf,’’ meddai rheolwr y Gleision, Phil Davies.
‘‘Rydym yn ceisio cael 25 chwaraewr o dan 25 oed yn y clwb ar gyfer y tair neu bedair blynedd nesaf,’’ ychwanegodd.