Bydd tîm rygbi’r Gleision yn teithio i’r Alban i chwarae Glasgow heno.
Mae’r Gleision wedi ennill pump gêm allan o saith oddi cartref yn y RaboDirect Pro 12.
‘‘Yr oedd y gemau yn erbyn Caerlŷr ac Ulster yn gemau caled i ni, ond ar wahân i hynny yr ydym wedi bod yn gystadleuol trwy gydol y flwyddyn,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.
‘‘Bydd yn rhaid mynd i Glasgow, gwneud yn siwr ein bod yn ennill y bêl a’i defnyddio yn dda a chwarae yn eu hanner nhw. Bydd angen i ni roi pwysau arnyn nhw, ac os y gwnawn hynny yr wyf yn ffyddiog y gwnawn ni sgorio ceisiau ac ennill ciciau cosb,’’ ychwanegodd Davies.
Gavin Evans i arwain y tîm
Gan nad yw’r capten a’r wythwr Andries Pretorius yn chwarae oherwydd anaf, Gavin Evans fydd yn arwain y tîm.
‘‘Mae Gavin wedi gwneud gwaith da o arwain y tîm yn ystod yr wythnosau diwethaf ac ef fydd y capten ar gyfer y gêm hon,’’ dywedodd Davies.
Tîm y Gleision
Olwyr – Chris Czekaj, Owen Williams, Richard Smith, Gavin Evans (Capten), Harry Robinson, Rhys Patchell a Alex Walker.
Blaenwyr – Luke Hamilton, Josh Navidi, Rory Watts-Jones, James Down, Lou Reed, Benoit Bourrust, Kristian Dacey a Tafufa’ao Filise.
Eilyddion – Marc Breeze, Sam Hobbs, Tamba Petru, Macauley Cook, Thomas Young, Lloyd Williams, Gareth Davies a Cory Allen.