Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r cyngor diweddaraf i dynnu rhai bwydydd sy’n cynnwys cig eidion oddi ar fwydlenni ysgolion a chartrefi gofal.
Mae yna bryderon bod olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod yng nghynnyrch Welsh Bros, sy’n cyflenwi ysgolion a chartrefi gofal ledled Cymru.
Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi cadarnhau bod olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod yn eu cynnyrch briwgig.
Dywedodd nifer o awdurdodau eraill ddoe eu bod nhw’n tynnu cynnyrch yn ôl rhag ofn bod olion cig ceffyl ynddyn nhw.
Y cynghorau eraill sydd wedi cael eu heffeithio yw Bro Morgannwg, Caerdydd, Penfro a Sir Gaerfyrddin.
Mae nifer o’r cynghorau yn parhau i gynnal profion ar y cig sy’n cael ei gyflenwi gan y cwmni.
Ddoe, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Welsh Bros, Alan Haycock: “Fe dderbynion ni e-bost ynghylch hyn neithiwr.
“Daeth prawf nôl yn bositif. Dydyn ni ddim wedi gweld y dystysgrif eto.
“Ond mae hyn oll yn cael ei archwilio gyda’r safonau masnachu nawr ac rydym yn aros am ragor o wybodaeth.
“Rydyn ni’n brysur iawn yn cysylltu â’n cwsmeriaid ni nawr ac yn rhoi gwybod iddyn nhw.”