Lesley Griffiths
Mae meddyg wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru mai cyfeirio’r penderfyniad ynghylch dyfodol gwasanaethau iechyd yn y canolbarth a’r gorllewin i Lywodraeth Cymru yw’r “peth iawn i’w wneud”.

Dywedodd Dr Dewi Evans, sy’n aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, y corff sy’n gwarchod buddiannau cleifion yn yr ardal, bod y penderfyniad  i gyfeirio’r mater at y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths yn dangos “diffyg ymddiriedaeth” yn y  Bwrdd Iechyd.

Mae cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnwys cau uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd gyda’r gwasanaethau yn cael eu canoli yn Ysbyty Glangwili.

O dan y  cynlluniau dadleuol fe fyddai gwasanaeth uned damweiniau a brys Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli hefyd yn newid.

Mae ’na fwriad hefyd i gau Ysbyty’r Mynydd Mawr ar gyfer cleifion oedrannus, ac fe fydd gwasanaethau’n cael eu gweithredu yn y gymuned ac yn Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli.

Mae’n debyg y bydd y penderfyniad am ddyfodol ysbytai cymunedol Dinbych-y-Pysgod a De Penfro hefyd yn cael ei gyfeirio at y Gweinidog Iechyd.

Canolfannau iechyd

Mae’r bwrdd iechyd wedi dweud y bydd cyfres o ganolfannau iechyd yn cael eu hagor yn y rhanbarth – yn Aberaeron, Aberteifi, Caerfyrddin, Cross Hands, Crymych a Hendy-gwyn-ar-dâf.

Bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y canolfannau hyn.

Dywed rheolwyr y bwrdd iechyd bod yn rhaid cyflwyno’r cynlluniau ad-drefnu er mwyn cwrdd ag anghenion poblogaeth sy’n heneiddio, ac i gwrdd â’r pwysau ariannol ar y GIG  yng Nghymru.

Mae disgwyl cadarnhad yn ddiweddarach heddiw y bydd y cynlluniau yn cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru.

Y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths fyddai wedyn yn gyfrifol am naill ai cymeradwyo’r cynlluniau neu eu haddasu.

Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr

Mae Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr eisoes wedi cefnogi cynlluniau ad-drefnu’r bwrdd iechyd yn y gogledd, penderfyniad sydd wedi ennyn beirniadaeth gan ymgyrchwyr.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys adleoli uned gofal arbennig i fabanod newydd yn ysbytai Maelor Wrecsam a Glan Clwyd i Gilgwri yn Lloegr.

Bydd pedwar ysbyty cymunedol hefyd yn cau fel rhan o’r cynlluniau ad-drefnu.