Bydd 33,000 a mwy o gefnogwyr Abertawe ar eu ffordd i gae pêl-droed enwocaf y byd yfory.

Wrth i’r Elyrch baratoi i herio Bradford yn rownd derfynol Cwpan Capital One yn Wembley, mae un o gefnogwyr mwyaf selog y clwb wedi dweud wrth Golwg360 gymaint fyddai ennill y Gwpan yn ei olygu iddi hi a’i chyd-gefnogwyr.

Dywedodd Cath Dyer o Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr: “Byddai’n wych iawn ennill – y teimlad gorau yn y byd.

“Mae’n teimlo’n grêt ar hyn o bryd – rwy’n nerfus, yn gyffrous ac yn falch iawn.

Cefnogi ers 31 mlynedd

Mae Cath Dyer yn gefnogwr yr Elyrch ers 31 o flynyddoedd, ac mi fydd hi’n teithio i Lundain gyda’i gŵr a’u dau o blant, ac yn gobeithio am lwyddiant yn nhymor canmlwyddiant y clwb.

“Os ydyn ni am ei hennill hi, byddai’n hyfryd ei hennill hi eleni yn y canmlwyddiant. Byddai cael y gwpan lawr llawr a phawb yn ei gweld hi wrth ddod i mewn i’r clwb yn grêt.

Wrth i’r miloedd o gefnogwyr edrych ymlaen at ddathlu nos Sul, mae Cath Dyer hefyd yn barod i gydnabod mor wahanol oedd gorwelion y clwb ddeng mlynedd yn ôl.

“Yn yr 80au, ro’n ni lan yn yr Adran Gynta’ bryd ‘ny. Roedd amserau da bryd ’ny.

“Wedyn gaethon ni amser drwg – y clwb bron â mynd ma’s o fusnes.”

Ddegawd yn ôl, bu’n rhaid i Abertawe aros tan gêm olaf y tymor yn erbyn Hull i wybod a fydden nhw’n cael aros yn y Drydedd Adran, neu a fydden nhw’n disgyn o’r Gynghrair Bêl-droed yn gyfan gwbl.

Roedd yr enw Tony Petty ar wefusau pawb, gyda’r clwb yn wynebu trafferthion ariannol a’r dyn busnes a chadeirydd y clwb yn ddihiryn y ddinas.

Ond daeth tro ar fyd wrth i’r Elyrch ennill y gêm honno, a daeth dyn busnes lleol ddod i’r adwy.

Canmol Huw Jenkins

Bellach, mae Huw Jenkins yn cael ei gydnabod fel y gŵr a achubodd y clwb ac a gododd y clwb o’r dyddiau duon yn y Drydedd Adran i hanner uchaf yr Uwch Gynghrair.

Dywedodd Cath Dyer: “Mae Huw Jenkins yn dda iawn, chwarae teg.

“Mae’n dewis rheolwyr da, ond hefyd mae’r bwrdd yn cydweithio’n dda gyda’i gilydd, yn dod ymlaen yn dda gyda’i gilydd ac wedi bod gyda’i gilydd ers wyth neu naw mlynedd nawr.

Mae bron pawb yn Abertawe yn fodlon cyfaddef bod Huw Jenkins yn ddyn doeth wrth ddewis rheolwyr y clwb, ac mae arwyddo Michael Laudrup yn brawf o ba mor bell mae’r clwb wedi dod yn y degawd diwethaf.

“Mae Laudrup wedi cael dylanwad mawr ar y clwb. Daeth e mewn â lot o chwaraewyr newydd ond mae e dal yn aros gyda’r hen chwaraewyr. Mae beth mae e wedi gwneud i’r clwb yn wych.

“Mae mwy o sylw ar Abertawe gyda Laudrup yma, ond nid jyst Laudrup yw e, ond y chwaraewyr hefyd sydd wedi dod i mewn.

“Mae’r ffaith fod Abertawe nid yn unig yn yr Uwch Gynghrair, ond hefyd ym mhen uchaf yr Uwch Gynghrair, a’r Gwpan ddydd Sul yn meddwl mai enw ni sydd ar dafodau pawb.”

Cymro lleol

Yn ogystal â’r enwau Sbaenaidd sydd wedi codi to Stadiwm Liberty y tymor hwn – Chico Flores, Michu, Pablo Hernandez – un o’r chwaraewyr dibynadwy ymhlith yr amddiffynwyr yw’r Cymro Cymraeg o Gastell-nedd, Ben Davies.

Daeth Davies, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Ystalyfera, i mewn i’r tîm yn dilyn anaf i’r cefnwr profiadol, Neil Taylor.

Ers hynny, fe sgoriodd ei gôl gyntaf dros y clwb, ac fe ymddangosodd yn nhîm Cymru.

Ddydd Sul, fe allai ychwanegu medal enillydd Cwpan Capital One at y rhestr.

Dywedodd Cath Dyer: “Mae’n neis i gael rhywun lleol yn y tîm, a rhywun sy’n siarad Cymraeg hefyd.”