Mae cwmni sy’n cyflenwi bwyd i ysgolion, cartrefi gofal a’r lluoedd arfog wedi tynnu cynnyrch yn ôl ar ôl i olion cig ceffyl gael eu darganfod ynddyn nhw.

Mae Sodexo yn cyflenwi mwy na 2,300 o ganolfannau ac maen nhw wedi dweud bod y sefyllfa’n “annerbyniol”.

Ond dywedodd y cwmni nad yw olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod yng nghynnyrch eu cyflenwyr Cymreig, Tillery Valley Foods.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Sodexo: “Mae gan Sodexo raglen ragweithiol yn ei lle er mwyn sicrhau nad oes cig ceffyl yn ei gadwyn gyflenwi. Rydym yn mynnu sicrwydd yn ysgrifenedig drwyddi draw yn y gadwyn gyflenwi nad oedd y cynnyrch rydym yn ei brynu yn cynnwys olion cig ceffyl, ac fe wnaethon ni weithredu rhaglen samplu fewnol.

“Er gwaethaf ailadrodd sicrwydd gan ein cyflenwyr, mae ein samplau wedi darganfod cynnyrch eidion rhewedig oedd yn cynnwys DNA ceffyl. Mae’r sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol.”

Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi tynnu pob cynnyrch eidion yn ôl.

Sodexo yw’r cwmni diweddaraf i dynnu cig eidion oddi ar y silffoedd.

Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Birds Eye ei fod yn tynnu prydau parod cig eidion oddi ar y silffoedd yn y DU ac Iwerddon.

Roedd profion yn dangos bod 2% o gig ceffyl yn chilli con carne y cwmni yng Ngwlad Belg.

Mae Asda a Whitbread hefyd ymhlith y cwmnïau diweddaraf i ganfod olion cig ceffyl yn eu cynnyrch.