Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i lenwi rhai o’r 31,000 o dai sydd yn wag dros y wlad, tra bod nifer fawr o bobol yn aros am gartrefi.
Mewn trafodaeth yn y Cynulliad heddiw, bydd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar dai, Peter Black, yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar y “broblem enfawr” o dai gwag sydd yng Nghymru.
Mae ystadegau newydd yn dangos bod 31,644 o gartrefi gwag ar hyn o bryd yng Nghymru, gyda 23,287 o’r rhain wedi eu labelu yn dai gwag hir-dymor.
“Trasiedi”
“Mae’n drasiedi bod dros 31,000 o dai gwag dros Gymru yn cael eu gwastraffu tra bod gymaint o bobol ar y rhestr yn aros am dai. Dyw Llafur Cymru heb wneud digon ar y mater, a rhaid iddyn nhw weithredu i wella’r sefyllfa,” meddai Peter Black.
Mae’r blaid wedi croesawu’r ffaith bod buddsoddiad o £10 miliwn yn y cynllun ‘Houses to Homes’ gan y Llywodraeth, sy’n rhoi benthyciadau i adfywio hen adeiladau i fod yn gartrefi unwaith eto.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth y byddan nhw’n ceisio adeiladu ar y cynllun yma:
“Rydyn ni’n cydnabod bod tai gwag yn wastraff o adnoddau ac yn difetha cymunedau, ac felly rydyn ni am wneud pob dim y gallwn i sicrhau adfywiad i gymaint o’r tai ag sy’n bosib.
“Rydyn ni wedi gosod targed uchelgeisiol o adfywio 5,000 o dai gwag yn ystod tymor y Cynulliad yma.”
Angen gwneud mwy
Ond dywedodd yr arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams bod angen gwneud llawer mwy.
Hoffai ddatblygu strategaeth er mwyn lleihau nifer y tai gwag, gan gynnwys sefydlu gwefan i hybu cynlluniau tai gwag, a chael Swyddog Tai Gwag ym mhob awdurdod lleol, i weithredu’r cynlluniau.
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae cael tai fforddiadwy ac o safon yn mynd y anoddach fyth i weithwyr cyffredinol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
“Mae hwn yn fater hynod o bwysig, ac yn un nad yw’r Llywodraeth wedi gwneud digon amdano. Mae tai gwag yn difetha ein cymunedau ac yn wastraff enfawr pan mae cymaint o bobol yn aros am dai.”